#

 

 

 

 


Briff Ymchwil

 Mae'r papur hwn yn cynnwys gwybodaeth gefndirol ar sut mae'r cofrestrau o lobïwyr yn gweithio yn Iwerddon a Senedd Ewrop. Gofynnwyd am y papur briffio hwn yn dilyn sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor â Chofrestrydd Cofrestr y Lobïwyr Ymgynghorol y DU (Alison Joy White) a Chofrestrydd Lobïo yr Alban (Billy McLaren).                                                                               

Iwerddon

Ym mis Mawrth 2015, cafodd Deddf Rheoleiddio Lobïo 2015 (y Ddeddf) ei llofnodi yn gyfraith gan Arlywydd Iwerddon. Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer: sefydlu cofrestr o bersonau sy'n gwneud gweithgareddau lobïo; cod ymddygiad i wneud gweithgareddau lobïo; a chyfyngiadau ar rai cyn-swyddogion cyhoeddus dynodedig i gymryd rhan mewn lobïo.

Gweinyddu'r gofrestr

Caiff y Gofrestr Lobïo ei gweinyddu a'i chynnal gan y Comisiwn Safonau mewn Swyddi Cyhoeddus, corff annibynnol o dan gadeiryddiaeth cyn farnwr yr Uchel Lys. Rôl y Comisiwn yw: gweithredu fel Cofrestrydd ar gyfer Lobïo; datblygu a goruchwylio'r gofrestr gyhoeddus ar y we; delio â materion ar gyfer penderfynu; gweithredu'r cod ymddygiad; darparu canllawiau a hyrwyddo dealltwriaeth o'r system; ymarfer pwerau i ymchwilio; cyhoeddi hysbysiadau talu sefydlog ar gyfer mân achosion o ddiffyg cydymffurfio; gwneud darpariaeth ar gyfer troseddau ar gyfer achosion arwyddocaol o diffyg cydymffurfio; a darparu Adroddiad Blynyddol i'r Oireachtas.

Sefydliadau sydd angen cofrestru

Mae'n rhaid i sefydliadau gofrestru os ydynt yn gwneud gweithgareddau lobïo. Pennir hyn drwy ganfod: a yw'r sefydliad yn cyfathrebu naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gyda “Swyddog Cyhoeddus Dynodedig” ynghylch “mater perthnasol[1]” ac a yw'r sefydliad yn un o'r canlynol:

§    Trydydd parti sy'n cael ei dalu am gyfathrebu ar ran cleient (lle mae'r cleient yn gyflogwr o fwy na 10 cyflogai llawn amser neu'n gorff cynrychioliadol neu'n gorff eirioli sydd ag o leiaf un cyflogai llawn amser);

§    Cyflogwr sydd â mwy na 10 cyflogai lle gwneir y gwaith cyfathrebu ar ei ran;

§    Corff cynrychioliadol gydag o leiaf un cyflogai yn cyfathrebu ar ran ei aelodau a bod y cyfathrebu yn cael ei wneud gan gyflogai a delir neu ddeiliaid swydd sy'n rhan o'r corff;

§    Corff eirioli gydag o leiaf un cyflogai sy'n bodoli'n bennaf i ymdrin â materion penodol a bod cyflogai cyflogedig neu ddeiliad swydd yn y corff yn cyfathrebu ar faterion o'r fath;

§    Unrhyw berson sy'n cyfathrebu ynghylch datblygu neu barthau tir.

At ddibenion y Ddeddf, rhestrir Swyddogion Cyhoeddus Dynodedig fel a ganlyn: Gweinidogion a Gweinidogion Gwladol; TDs (Teachta Dála) a Seneddwyr; ASEau ar gyfer etholaethau; Aelodau o Awdurdodau Lleol; Cynghorwyr Arbennig; Ysgrifenyddion Cyffredin ac Ysgrifenyddion Cynorthwyol yn y Gwasanaeth Sifil; a Phrif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr Gwasanaethau mewn Awdurdodau Lleol

 

“Mater perthnasol” yw un sy'n ymwneud â'r canlynol:

§    Cychwyn, datblygu neu addasu unrhyw bolisi cyhoeddus neu unrhyw raglen gyhoeddus;

§    Paratoi neu ddiwygio unrhyw gyfraith (gan gynnwys is-ddeddfwriaeth fel offerynnau statudol ac is-ddeddfau); neu

§    Dyfarnu unrhyw grant, benthyciad neu gymorth, contract neu gytundeb ariannol arall, neu unrhyw drwydded neu awdurdod arall yn ymwneud ag arian cyhoeddus[2].

 

Mae nifer o “gyfathrebu wedi'u heithrio neu esemptio” nad ydynt yn cael eu hystyried yn weithgareddau lobïo:

§    Materion preifat: Cyfathrebu gan neu ar ran unigolyn sy'n ymwneud â'i faterion preifat ei hun ynghylch unrhyw fater heblaw am ddatblygiad neu barthau unrhyw dir heblaw am brif breswylfa preifat yr unigolyn;

§    Cysylltiadau diplomyddol: Cyfathrebu gan neu ar ran gwlad neu diriogaeth dramor, yr Undeb Ewropeaidd, y Cenhedloedd Unedig neu sefydliadau rhynglywodraethol rhyngwladol eraill;

§    Gwybodaeth ffeithiol: Cyfathrebu sy'n gofyn am wybodaeth ffeithiol neu'n darparu gwybodaeth ffeithiol mewn ymateb i gais am y wybodaeth;

§    Cyflwyniadau wedi'u cyhoeddi: Cais cyfathrebu gan gorff gwasanaeth cyhoeddus ac wedi'i gyhoeddi ganddo;

§    Trafodaethau undeb llafur: Cyfathrebu sy'n ffurfio rhan neu'n ymwneud yn uniongyrchol â thrafodaethau ar delerau ac amodau cyflogaeth a wnaed gan gynrychiolwyr undeb llafur ar ran ei haelodau;

§    Diogelwch: Cyfathrebu datgeliad a allai fod yn fygythiad i ddiogelwch unrhyw berson neu ddiogelwch y Wladwriaeth;

§    Pwyllgorau Oireachtas: Cyfathrebu a wneir yn nhrafodion pwyllgor naill Dŷ'r Oireachtas;

§    Cyfathrebu gan Swyddogion Cyhoeddus Dynodedig neu weision cyhoeddus: Cyfathrebu gan swyddog cyhoeddus dynodedig yn rhinwedd ei swydd; cyfathrebu gan weision cyhoeddus (neu'r rhai sy'n rhan o gontract gan gorff gwasanaeth cyhoeddus) a wnaed yn y swydd honno ac yn ymwneud â swyddogaethau'r corff gwasanaeth cyhoeddus;

§    Llywodraethu Cyrff Gwladwriaeth Masnachol: Cyfathrebu gan neu ar ran corff gwladwriaeth masnachol i Weinidog sy'n dal cyfranddaliadau mewn, neu sydd â swyddogaethau statudol yn ymwneud â, y corff, neu'r swyddogion cyhoeddus dynodedig sy'n gwasanaethu yn adran y Gweinidog, ac a wneir yn nhrefn arferol busnes y corff;

§    Gweithgorau polisi: Cyfathrebu rhwng aelodau o gorff perthnasol a benodwyd gan Weinidog, neu gan gorff gwasanaeth cyhoeddus, at ddibenion adolygu, asesu neu ddadansoddi unrhyw fater o bolisi cyhoeddus gyda'r bwriad o adrodd i'r Gweinidog neu'r corff gwasanaeth cyhoeddus ar hynny.

Y Gofrestr

Mae'r gofrestr lobïo yn gofrestr gwybodaeth gyhoeddus ar y we. Ni chodir tâl i sefydliadau/unigolion gofrestru. Ar adeg ysgrifennu, mae 1,620 o sefydliadau/unigolion wedi cofrestru. Mae angen i gofrestryddion ddarparu’r wybodaeth ganlynol ar y gofrestr:

§    Enw'r sefydliad;

§    Cyfeiriad a manylion cyswllt y busnes;

§    Prif weithgareddau'r busnes ;

§    Enw'r person sydd â'r cyfrifoldeb pennaf dros lobïo;

§    Rhif Swyddfa Cofrestru’r Cwmni/Rhif Cofrestru'r Elusen.

Mae gofyn i gofrestryddion lenwi ‘ffurflenni’ i gofnodi'r gweithgareddau lobïo. Mae tri chyfnod ffurflenni y flwyddyn gyda dyddiadau cau penodol (1 Medi - 31 Rhagfyr): dychwelyd ffurflenni erbyn 21 Ionawr / I Ionawr - 30 Ebrill: dychwelyd ffurflenni erbyn 21 Mai / 1 Mai - 31 Awst: dychwelyd ffurflenni erbyn 21 Medi).  Rhaid i bob ffurflen gynnwys gwybodaeth am bwy gafodd ei lobïo; mater pwnc y lobïo a'r canlyniadau a fwriadwyd; math a graddau'r gweithgaredd; enw unrhyw berson yn y sefydliad sydd neu oedd y swyddog dynodedig ac a wnaeth y gweithgareddau lobïo; gwybodaeth am y cleient (os yn berthnasol).

Torri rheolau a sancsiynau

Mae Rhan 4 o'r Ddeddf yn ymdrin â thorri rheolau a gorfodi. Mae sawl achos o dorri rheolau:

§    Lobïo heb gofrestru;

§    Methu â chyflwyno ffurflen erbyn y dyddiad cau (gan gynnwys 'cofnod dim / nil return');

§    Darparu gwybodaeth anghywir/camarweiniol;

§    Methu â chydymffurfio ag ymchwiliad;

§    Rhwystro ymchwiliad.

Mae'r canlyniadau o beidio â chydymffurfio â'r Ddeddf yn cynnwys hysbysiadau talu sefydlog (ar gyfer ffurflenni hwyr), ymchwilio i dorri rheolau posibl, erlyn, a dirwyon a/neu garchar.

Yn ogystal, mae cyfyngiadau ar ôl cyflogaeth ar gyfer rhai swyddogion cyhoeddus.

 

Senedd Ewrop a'r Comisiwn Ewropeaidd

Sefydlwyd y Gofrestr Tryloywder fel cynllun ar y cyd rhwng Senedd Ewrop (SE) a'r Comisiwn Ewropeaidd (CE) yn 2011 drwy Gytundeb Rhyngsefydliadol (CRS). Mae'r gofrestr yn gymwys i bob grŵp â diddordeb sy'n gwneud gweithgareddau sydd â'r nod o ddylanwadu ar brosesau deddfu a gweithredu polisïau yn sefydliadau'r UE. Mae cwmpas y gofrestr yn cynnwys pob gweithgaredd (gyda rhai eithriadau[3]) a wnaed gyda'r nod o ddylanwadu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol ar lunio neu weithredu polisi a phrosesau penderfynu yn sefydliadau'r UE, waeth ble cânt eu gwneud a'r sianel neu'r cyfrwng cyfathrebu a ddefnyddiwyd.

Mae'r Cytundeb Rhyngsefydliadol rhwng Senedd Ewrop a'r Comisiwn Ewropeaidd yn nodi'r rheolau a'r egwyddorion y mae'r Gofrestr Tryloywder yn seiliedig arnynt. Cafodd y Cytundeb cyntaf (a lofnodwyd ym mis Mehefin 2011) ei adolygu ar ôl dwy flynedd. Cafodd y Cytundeb diwygiedig ei fabwysiadu ym mis Ebrill 2014.

 

Y Gofrestr

Mae'r gofrestr yn wirfoddol ar hyn o bryd, ond mae cynlluniau i'w gwneud yn orfodol. Mae'n adnodd chwiliadwy sydd ar gael yn gyhoeddus ac nid oes ffi i gofrestru.  Mae nifer o gymhellion y gellir eu cynnig gan Senedd Ewrop i annog cofrestryddion i gofrestru:

§    Hwyluso mynediad i'r safle, ei Aelodau a'u cynorthwywyr, ei swyddogion a staff eraill;

§    Awdurdod i drefnu neu gyd-gynnal digwyddiadau ar y safle;

§    Trosglwyddo gwybodaeth yn haws, gan gynnwys rhestrau postio penodol;

§    Cymryd rhan fel siaradwyr mewn gwrandawiadau pwyllgor;

§    Nawdd gan Senedd Ewrop.

Gall y cymhellion a gynigir gan y Comisiwn Ewropeaidd i gofrestryddion gynnwys:

§    Mesurau mewn cysylltiad â throsglwyddo gwybodaeth i gofrestryddion wrth lansio ymgynghoriad cyhoeddus;

§    Mesurau mewn perthynas â grwpiau arbenigol a chyrff cynghori eraill;

§    Rhestrau postio penodol;

§    Nawdd gan y Comisiwn Ewropeaidd.

 

Ar adeg ysgrifennu, mae 11,216 o unigolion cofrestredig ar y gofrestr. Mae dadansoddiad o'r sefydliadau yn Nhabl 1 isod.

 

Tabl 1: Ystadegau ar gyfer y Gofrestr Tryloywder (Europa.eu)

Ymgynghoriaethau proffesiynol /cwmnïau cyfreithiol/ymgynghorwyr hunangyflogedig

1301

Lobïwyr mewnol a chymdeithasau masnach/busnes/proffesiynol

5563

Sefydliadau anllywodraethol

2932

Melinau trafod, sefydliadau ymchwil ac academaidd

838

Sefydliadau sy'n cynrychioli eglwysi a chymunedau crefyddol

48

Sefydliadau sy'n cynrychioli awdurdodau lleol, rhanbarthol a threfol, endidau cyhoeddus neu gymysg eraill, ac ati

534

Cyfanswm

11216

 

 

Gweinyddu'r gofrestr

Mae Ysgrifenyddiaeth y Cyd-gofrestr Tryloywder (JTRS) yn cynnwys tîm o swyddogion o Senedd Ewrop (SE) a'r Comisiwn Ewropeaidd (CE). Mae'n gweithredu o dan gydgysylltiad Pennaeth yr Uned Tryloywder yn Ysgrifenyddiaeth Cyffredinol y Comisiwn Ewropeaidd gyda Chyngor Ewrop fel arsylwr. Y JTRS sy'n gyfrifol am reoli'r system o ddydd i ddydd; mae'n cynnig gwasanaethau desg gymorth, yn cyhoeddi ac yn diweddaru canllawiau ar gyfer cofrestru, yn cynnal profion ansawdd data, yn ymdrin â rhybuddion a chwynion a ddaw i law, yn cydlynu gwaith datblygu a chynnal TG ac yn gwneud gweithgareddau codi ymwybyddiaeth. Mae'r Ysgrifenyddiaeth yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar y Gofrestr Tryloywder, ei chynnwys a'r ffordd y caiff ei datblygu.

Gwybodaeth am y cofrestryddion

Mae'n rhaid i gofrestryddion ddarparu ystod eang o wybodaeth:

§    Enw'r sefydliad neu'r unigolyn hunangyflogedig;

§    Adran cofrestru (math o sefydliad yn ôl categori);

§    Manylion cyswllt;

§    Manylion y person sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol a'r person sy'n gyfrifol am gysylltiadau UE;

§    Nodau/cylch gwaith y sefydliad;

§    Manylion y gweithgareddau penodol a gwmpesir yn y gofrestr (e.e. prif mentrau, polisïau a ffeiliau deddfwriaethol yr UE ac yna gweithgareddau gweithredu polisi, cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu perthnasol/cyfranogiad yn strwythurau a llwyfannau yr UE/grwpiau lefel uchel (CE)/pwyllgorau ymgynghorol/grwpiau arbenigol (CE), rhyng-grwpiau a fforymau diwydiant (SE);

§    Nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn y gweithgareddau a restrir yn y pwynt bwled blaenorol;

§    Manylion y bobl a achredwyd i gael mynediad i safle Senedd Ewrop;

§    Meysydd o ddiddordeb;

§    Aelodaeth a ymlyniad;

§    Data ariannol (gan gynnwys amcangyfrif o'r costau blynyddol sy'n gysylltiedig â gweithgareddau a gwmpesir gan y gofrestr, a'r wybodaeth ariannol ddiweddaraf ynghylch arian a gafwyd gan sefydliadau'r UE).

 

Drwy gofrestru, mae sefydliad wedi llofnodi Cod Ymddygiad y Gofrestr Tryloywder yn awtomatig, sy'n pennu rheolau i bawb sy'n cofrestru ac sy'n sefydlu egwyddorion sylfaenol ar gyfer safonau ymddygiad ym mhob cysylltiad â sefydliadau'r UE.

Torri rheolau a sancsiynau

Mae'r Cytundeb Rhyngsefydliadol yn pennu ystod o fesurau sydd ar gael i'r JTRS mewn achos o ddiffyg cydymffurfio â'r cod ymddygiad. Mae crynodeb yn Nhabl 2 isod.

Tabl 2: Mesurau sydd ar gael mewn achos o ddiffyg cydymffurfio â'r cod ymddygiad(o'r Cytundeb Rhyngsefydliadol)

Math o ddiffyg cydymffurfio

Mesur

Cyhoeddi mesur yn y gofrestr

Penderfyniad ffurfiol i wahardd mynediad i eiddo Senedd Ewrop

Diffyg cydymffurfio, wedi'i gywiro ar unwaith

Hysbysiad ysgrifenedig yn cydnabod y ffeithiau a'u cywiro.

Na

Na

Dim cydweithrediad â'r JTRS

Tynnu enw oddi ar y gofrestr, tynnu awdurdod i gael mynediad i SE a cholli cymhellion eraill.

Na

Na

Ymddygiad amhriodol

Tynnu enw oddi ar y gofrestr, tynnu awdurdod i gael mynediad i SE a cholli cymhellion eraill.

Na

Na

Diffyg cydymffurfio dro ar ôl tro ac yn fwriadol neu ymddygiad amhriodol sawl gwaith a/neu achos difrifol o ddiffyg cydymffurfio

a. Tynnu enw oddi ar y gofrestr am flwyddyn, a thynnu awdurdod i gael mynediad i safle SE yn ffurfiol

b. Tynnu enw oddi ar y gofrestr am ddwy flynedd, a thynnu awdurdod i gael mynediad i safle SE yn ffurfiol

 

Ie, yn ôl penderfyniad Ysgrifenyddion Cyffredinol SE a CE.

Ie, yn ôl penderfyniad Coleg y Quaestors.

 



[1] Heblaw am fater penodol sydd wedi'i eithrio.

[2] Heblaw am weithredu unrhyw bolisi, rhaglen, deddfiad neu ddyfarniad o'r fath neu unrhyw fater o natur dechnegol yn unig.

[3] Amlinellir y gweithgareddau nad ydynt wedi'u cynnwys ym mhwyntiau 9, 10, 11 a 12 o'r Cytundeb Rhyngsefydliadol.